Should charities with a Welsh office produce communications in Welsh as well as English?

Read this blog in English or Welsh. Darllenwch y blog yma yn Saesneg neu Gymraeg.

*Jump to the Welsh version   Neidiwch i’r fersiwn Cymraeg

Dame Louis Casey’s comments on Radio 4’s "Westminster Hour" about the need for everyone to speak English by a particular date[1] has helped to shine a light on one of the thorny issues at the heart of British identity: Is Britain a unifying multi-national identity or an expression of the dominance of English identity over all other groups living in the UK? This comes at a time when groups with the devolved nations are becoming increasingly disillusioned with what they see as the dominance of a Westminster political class which no longer represents their needs.

The 2017 elections have demonstrated how the four nations of the UK are being increasingly pulled in different directions by nationalist and unionist forces. Although the 2017 election saw a resurgence of pro-union political parties in Scotland (particularly the Conservative Party), the SNP still returned an overall majority of Scottish MPs[2]. The Northern Ireland Assembly Election in 2017 was the first in which unionist parties failed to win a majority of seats.[3] Even in Wales where non-nationalist parties took nearly 90% of the popular vote and the parliamentary seats, nearly 70% of Welsh people voted for parties that sit on the opposition benches in Westminster.

In this environment, it is hard to remain aloof, and it is becoming increasingly important for UK Charities working in Wales, Scotland and Northern Ireland to actively promote an inclusionary identity so as not to exclude any potential service users. With the spring wave of our Celtic Charity Awareness Monitor approaching, we at nfpSynergy have decided to have a more in-depth look at one of the most important issues of identity for the Welsh charity sector; the revival of the Welsh language and the issues for charities working in an increasingly multi-lingual country.

Welsh as a language underwent a renaissance in the second half of the twentieth century with the establishment of the Welsh Language Society in 1962. Since then the percentage of Welsh language speakers stabilised at 18.5% according to the 1991 census and increased for the first time in a century in 2001 to 20%. Backed up by the evidence of the social and cultural benefits of learning Welsh in school[4], the implementation of The Welsh Language (Wales) Measure in 2011 and the subsequent consultations proposing new Welsh Language legislation (White Paper released on the 9th August 2017) set out a vision to double the number of Welsh language speakers to 1 million by 2050.[5] As well as being a sizable minority of the Welsh population as a whole, Welsh speakers are also concentrated spatially (figure 1).

The Welsh speaking regions of the country are also some of the most deprived areas of Wales (figure 1). Four local authority areas have a population where over 40% are Welsh Language speakers. In all of these local authority areas, the mean weekly earnings for a person in full time employment is below the Welsh average weekly earnings. Also, areas with significant Welsh language speaking populations were the only constituencies where Welsh nationalist party Plaid Cymru returned MPs in the 2017 general election (figure 3). Combine this with the fact that almost a quarter of Welsh children are only taught in Welsh[6] and we realise that Welsh language speakers are becoming a larger constituency. Their needs must be addressed and adequate access to services need to be provided.

(From left to right)

Figure 1: Concentrations of Welsh language speakers by local authority area

Figure 2: Assisted Areas for Wales between 2014 and 2020, put forward by the Department for Business Innovation and Skills

Figure 3: 2017 General Election results by party in Wales (Red for Labour, Blue for Conservative, Green for Plaid Cymru)

Sources: fig.1 Welsh Government 2015 fig2 Department for Business Innovation and Skills fig.3 Electoral Commission 

 

So why does this matter to charities?

The latest wave of the Celtic Charity Awareness Monitor indicates that local and Welsh charities receive a large amount of support from the Welsh public. Nearly half of the Welsh public (49%) would prefer to support either a local charity or a Welsh Charity. In addition to this, over a third of the public in Wales would prefer their charity donation to be spent in Wales. There is also evidence that monolingualism may hinder charities efforts to fundraise in Wales, according to a survey commissioned by the Welsh Language Commissioner at the National Eisteddfod in bilingual marketing, 29% of respondents said they would be more likely to tell their friends about a charity if their fundraising asks are bilingual.[7] Even putting this aside, the fact that Wales is becoming a dual-lingual society will make service provision more accessible to the welsh speaking public, a group which is growing in size and will want to engage with the public sphere in Wales and beyond.

Figure 4: Preference for charities with a distinct Welsh/local brand

There are positive developments on this front. Preliminary desk research shows that a majority of charities who subscribe to the Charity Awareness Monitor with an office in Wales have a significant proportion of the communications on their website in Welsh (57%). Save the Children has also led by example in bilingual communications, adopting the principle of treating English and Welsh equally when they work in Wales.[8] Even more encouragingly, the bilingual campaign time to change Wales/amser i newid Cymru has been launched to help end mental health stigma in Wales. This campaign has included bilingual advertising, traditional and social media drives as well as campaign videos shot in both languages.

However, a number of CAM clients with Welsh offices have little Welsh language communications on their websites beyond translation of the name, which if research on monolingual fundraising proves correct, could be seriously affecting the voluntary income of these charities.

Charities operating in Wales, especially charities that are providing services to the public, need to be able to continue to reduce barriers for access to the services they provide and understand the needs of the populations they provide for. Starting to move towards bilingual messaging will help to achieve those goals.

To find out more about our research in Wales, please download the briefing pack below the Welsh version.

[2] General Election 2017: full results and analysis, www.parliament.uk, [accessed 21 March 2018)

[3] Ibid

[8] https://www.charitycomms.org.uk/events/incorporating-the-welsh-language-...

  

Dylai elusennau sydd â swyddfa yng Nghymru cyfathrebu yn Gymraeg yn ogystal â Saesneg?

Daeth un o gwestiynau anos Prydain Fawr i’r amlwg ar raglen Radio 4 ‘Westminster Hour’ yn ddiweddar wrth i’r Fonesig Louis Casey alw am ddyddiad penodol i bawb siarad Saesneg[1] - hynny yw, ydy Prydeindod yn hunaniaeth gynhwysol sy'n creu undod, neu’n hytrach yn fynegiant o hunaniaeth Seisnig sy’n tra-arglwyddiaethu dros yr holl grwpiau eraill sy'n byw yn y Deyrnas Gyfunol? Clywn y sylwadau yma yn ystod cyfnod pan mae grwpiau o fewn y gwledydd datganoledig yn dadrithio’n fwyfwy gyda pharhad yr hen drefn wrth iddynt weld dosbarth gwleidyddol Westminster nad sydd mwyach â’r gallu i ddiwallu eu hanghenion.

Arddangosodd etholiadau 2017 sut mae pedair gwlad y Deyrnas Gyfunol eisoes wedi cael eu heffeithio gan rymoedd cenedlaethol ac unoliaethol. Er gwaetha adfywiad y pleidiau unoliaethol yn yr Alban (yn enwedig y Blaid Geidwadol) yn etholiad 2017, yr SNP sy’n parhau i ddanfon y mwyafrif o Aelodau Seneddol i San Steffan[2]. Etholiad Cynulliad Gogledd Iwerddon yn 2017 oedd y cyntaf ble na etholwyd mwyafrif o’r seddau i’r pleidiau unoliaethol.[3].  Hyd yn oed yng Nghymru, lle enillodd pleidiau San Steffan bron i 90% o'r bleidlais - ac felly hefyd y seddau - bu bron i 70% o bobl bleidleisio am blaid sy'n eistedd ar feinciau'r wrthblaid yn Llundain.

Anodd buasai peidio ymateb i’r amgylchedd newydd hwn, ac yn wir mae'n gynyddol bwysig i elusennau'r Deyrnas Gyfunol sy’n gweithredu yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon hyrwyddo hunaniaeth gynhwysol er mwyn arddangos eu bod yn cynnig croeso i unrhyw ddefnyddiwr arfaethedig i’w gwasanaethau. Wrth i dymor y gwanwyn ac ein Monitor Ymwybyddiaeth Elusennau Celtaidd prysur agosáu, yn nfpSynergy rydym wedi penderfynu cymryd cipolwg mwy trylwyr ar un o faterion pwysicaf hunaniaeth y sector elusennol yng Nghymru; sef adfywiad yr iaith Gymraeg ac effaith hynny ar waith yr elusennau sydd yn gweithio yng ngwlad sy’n gynyddol amlieithog.

Cafodd y Gymraeg adfywiad yn ystod ail hanner yr ugeinfed ganrif a sefydlwyd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn 1962. Ers hynny, sefydlogodd canran y siaradwyr Cymraeg i 18.5% yn ôl Cyfrifiad 1991 cyn cynyddu am y tro cyntaf mewn canrif i 20% yn 2001. Ategwyd hyn gan dystiolaeth manteision cymdeithasol a diwylliannol dysgu Cymraeg yn yr ysgol[4], gweithredu Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 ac ymgynghoriadau pellach yn cynnig deddfwriaeth iaith Gymraeg newydd (megis Papur Gwyn 9fed Awst 2017) er mwyn ceisio gwireddu’r weledigaeth i ddyblu nifer y siaradwyr Cymraeg i 1 miliwn erbyn 2050.[5]  Yn ogystal â bod yn lleiafrif sylweddol o boblogaeth Cymru yn ei chyfanrwydd, mae siaradwyrI y Gymraeg wedi cronni’n sylweddol mewn rhai ardaloedd (gweler Ffigwr 1, isod).

Mae’r ardaloedd Cymraeg eu hiaith hefyd yn rhai o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru (ffigwr 1). Gan bedwar awdurdod lleol dros 40% o siaradwyr Cymraeg. O fewn yr awdurdodau lleol yma, ar gyfartaledd mae enillion wythnosol [cymedrig] person mewn cyflogaeth llawn amser yn is nag enillion wythnosol cyfartalog Cymru. Hefyd, ardaloedd sydd â nifer cymharol fawr o siaradwyr Cymraeg oedd yr unig etholaethau ble etholwyd Aelod Seneddol Plaid Cymru yn Etholiad Cyffredinol 2017 (ffigwr 3).

Wrth gyfuno hyn gyda'r ffaith bod bron i chwarter o blant Cymru yn cael eu haddysg trwy gyfrwng Gymraeg[6], daw siaradwyr Cymraeg i'r amlwg fel grŵp sylweddol ac o bwys. Oherwydd hynny, mae gwir angen darparu mynediad digonol i wasanaethau a diwallu eu hanghenion.

(O’r chwith i’r dde)

Ffigwr 1: Siaradwyr Cymraeg yn ôl ardal awdurdod lleol

Ffigwr 2: Ardaloedd a Gynorthwyir yng Nghymru 2014-2020 fel y cyflwynwyd gan Adran Arloesedd Busnes a Sgiliau.

Ffigwr 3: Canlyniadau’r Etholiad Cyffredinol yn ôl y pleidiau (coch ar gyfer Llafur, glas ar gyfer Ceidwadol, gwyrdd ar gyfer Plaid Cymru)

Ffynonellau: Ffig.1 Llywodraeth Cymru 2015 Ffig.2 Adran Arloesedd Busnes a Sgiliau.fig.3 Comisiwn Etholiadol 

 

Felly, beth yw arwyddocâd hyn oll i elusennau?

Mae ein gweithgaredd ddiweddaraf wrth fonitro ymwybyddiaeth elusennau yn y gwledydd Celtaidd yn awgrymu bod gan elusennau lleol a Chymreig lawer o gefnogaeth gan y cyhoedd yng Nghymru. Buasai’n well gan bron i hanner o’r cyhoedd yng Nghymru (49%) gefnogi elusen leol neu elusen o Gymru. Yn ogystal, buasai’n well gan dros draean o'r cyhoedd yng Nghymru pe bai eu rhodd elusennol yn cael ei wario yng Nghymru. Ceir hefyd tystiolaeth bod gweithredu yn Saesneg yn unig yn llesteirio ymdrechion elusennau i godi arian yng Nghymru; yn ôl arolwg Comisiynydd y Gymraeg ar farchnata dwyieithog, dywedodd 29% o ymatebwyr y buasent yn fwy tebygol i sôn i’w ffrindiau am elusen petai'r cais am arian yn un ddwyieithog.[7] Nid yn unig yw darparu gwasanaeth iaith Gymraeg yn fwy hygyrch mewn cymdeithas ddwyieithog, ond yn ogystal mae’r gymuned sy'n siarad Cymraeg yn un sy'n tyfu o ran maint ac sydd am ymgysylltu â’r sffêr cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt.

Ffigwr 4: Blaenoriaethu elusennau sydd â brand Cymreig

Ceir datblygiadau cadarnhaol yn y maes hwn. Dengys ymchwil gan ein swyddfa bod y rhan fwyaf o’r elusennau sy'n tanysgrifio i'r Monitor Ymwybyddiaeth Elusennol sydd yn berchen ar swyddfa yng Nghymru yn arddangos cyfran sylweddol o’u cyfathrebu ar eu gwefan yn Gymraeg (57%). Mae Achub y Plant hefyd wedi arwain drwy esiampl yn cyfathrebu dwyieithog, trwy fabwysiadu'r egwyddor o drin y Gymraeg a'r Saesneg yn gydradd yn eu gwaith yng Nghymru.[8]  Yn fwy calonogol fyth, mae ymgyrch ddwyieithog Time to Change/Amser i Newid Cymru eisoes wedi’i lansio er mwyn helpu dod i derfyn ar stigma iechyd meddwl yng Nghymru. Mae'r ymgyrch hon wedi cynnwys hysbysebu dwyieithog mewn moddau traddodiadol ac ym maes y cyfryngau cymdeithasol yn ogystal â denu sylw at ffilmiau byrion yn y ddwy iaith.

Fodd bynnag, ychydig iawn o gyfathrebu iaith Gymraeg sydd gan nifer o gleientiaid CAM sydd efo swyddfeydd yng Nghymru ar eu gwefannau tu hwnt i gyfieithiad o’u henw, ac os yw’r ymchwil ar godi arian mewn un iaith yn unig yn gywir, gallai hynny effeithio yn ddifrifol ar eu hincwm.

Mae angen i elusennau sy'n gweithredu yng Nghymru, yn enwedig elusennau sy'n darparu gwasanaethau i'r cyhoedd, cefnogi defnyddwyr i gael mynediad i’r gwasanaethau maent yn darparu a deall anghenion y boblogaeth yn eu hardaloedd. Bydd dechrau defnyddio negeseuon dwyieithog yn helpu cyflawni hynny.

Subscribe

Enjoying this article? Subscribe to our newsletter to get the next one first!

Celtic CAM briefing pack - Wales

To download this file please enter your details in the form below and click the Download button.